Hugh Hefner (Llun: Gwefan Playboy Enterprises)
Mae sylfaenydd cylchgrawn Playboy, Hugh Hefner, wedi marw yn 91 oed yn Los Angeles.

Fe gyhoeddwyd y newyddion ar Twitter ac mewn datganiad pellach dywedodd Playboy Enterprises bod Hugh Hefner “wedi marw’n dawel o achosion naturiol yn ei gartref, y Playboy Mansion, gyda’i anwyliaid o’i gwmpas.”

Mae wedi cael ei ddisgrifio fel “eicon Americanaidd” ac “arloeswr” ym myd y cyfryngau a diwylliant.

Dywedodd ei fab Cooper Hefner, prif swyddog creadigol Playboy Enterprises bod ei Dad “y tu ôl i rai o newidiadau cymdeithasol a diwylliannol mwyaf arwyddocaol ein cyfnod gan annog rhyddid barn, hawliau sifil a rhyddid rhywiol.”

Cafodd y cylchgrawn Playboy ei lansio yn 1953.

Mae’n gadael gwraig, Crystal, a phedwar o blant.