Banc Lloegr Llun: PA
Fe fydd y Prif Weinidog Theresa May yn amddiffyn y farchnad rydd heddiw mewn araith i nodi 20 mlynedd ers annibyniaeth Banc Lloegr.

Fe ddechreuodd Theresa May ei gyrfa gyda’r banc yn 1977 ac mae disgwyl iddi bwysleisio gwerth system ariannol agored sydd a’r lefel briodol o reoleiddio.

Daw ei sylwadau ddiwrnod ar ôl i Jeremy Corbyn feirniadu cyfalafiaeth dros y degawdau diwethaf, wrth gloi cynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton.

Fe fydd Theresa May yn dweud bod angen agwedd gadarn tuag at wariant cyhoeddus er mwyn sicrhau bod yr economi yn gweithredu er budd pobl sy’n gweithio.

“Mae hynny’n golygu parhau i fynd i’r afael gyda’n dyledion fel bod ein heconomi yn gallu parhau’n gryf ac y gallwn ddiogelu swyddi pobl.

“Ar yr un pryd mae’n golygu buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel ysgolion ac ysbytai, sydd wedi bod yn bosib oherwydd ein rheolaeth lwyddiannus o’r economi.”