Ann Clwyd (Llun: o'i chyfri Trydar)
Roedd amseriad refferendwm annibyniaeth gan Cwrdiaid Irac yn “hollol anghywir” yn ôl cyn-Gennad Arbennig i Irac ac Aelod Seneddol Cwm Cynon.
Cafodd y refferendwm ei gynnal ar ddechrau’r wythnos (Medi 25) ac yn ôl Comisiwn Etholiadol y Cwrdiaid mi wnaeth 92.73% bleidleisio o blaid annibyniaeth.
Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Ann Clwyd, yn dweud ei bod wedi “cefnogi Cwrdiaid Irac ers adeg hir” ond yn pryderu nad dyma’r “amgylchiadau iawn” ar gyfer y refferendwm.
“Mae’r amseriad yn hollol anghywir ac, wrth gwrs, mae o’n anghyfreithlon hefyd,” meddai wrth golwg360.
“Mae pawb wedi gwneud hynny’n glir. Mae’r hyn mae’r Cwrdiaid wedi gwneud rŵan – heb ganiatâd – yn mynd i greu tipyn o drwbl.
“Symbol ydy o, dw i’n credu. Mae Twrci eisoes wedi bygwth torri cysylltiadau efo rhanbarth Cwrdiaid Irac. Mae yna restr o fygythiadau. Mae’r sefyllfa yn ansefydlog beth bynnag.”
Masoud Barzani
Mae Ann Clwyd yn pryderu am gyflwr democratiaeth yn rhanbarth Cwrdistanaidd Irac ac yn nodi bod senedd y Cwrdiaid heb gyfarfod ers dwy flynedd.
Mae hi’n pryderu mai “power grab” yw’r refferendwm gan Arlywydd Senedd Rhanbarth y Cwrdiaid, Masoud Barzani – dyn sydd wedi bod mewn grym ers 2005.
“Dw i’n gweld hwn yn dipyn o ymladd am statws gan [Masoud] Barzani,” meddai.“Roedd Barzani fod sefyll i lawr tro hyn.”
“Doedd e ddim i fod i barhau fel Arlywydd. Ond mae wedi gwrthod gwneud… Mae pobol yn dweud power grab ac yn y blaen. Dw i’n meddwl bod elfen o hynny ynddo fo hefyd.”
Cwrdistan
 chymunedau Cwrdaidd yn Iran, Syria a Thwrci mae nifer yn y Dwyrain Canol am weld sefydliad gwlad i uno’r cymunedau – ‘Cwrdistan’- ond mae Ann Clwyd yn amheus.
“Dw i’n gweld bod yna wahaniaethau mawr rhwng y gwahanol Cwrdiaid yn y gwahanol wledydd,” meddai.
“Dw i’n nabod Cwrdiaid o Iran ac wedi cyfarfod â Chwrdiaid yn Nhwrci. Felly dw i’n gwybod tipyn o’u hanes nhw. Dw i ddim yn gweld bod gymaint â hynny yn eu tynnu nhw at ei gilydd.
“Efo Cwrdiaid Twrci, oedd ganddyn nhw byth llawer o ddiddordeb pan oeddwn i yna ynglŷn â beth oedd yn digwydd i’r Cwrdiaid yn Irac neu Iran.”