David Hart (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio gyrrwr tacsi 60 oed, a oedd wedi bod ar ffo ar ôl ei gael yn euog o droseddau rhyw difrifol yn erbyn plentyn,
Nid oedd David Hart yn bresennol yn Llys y Goron Abertawe wrth i reithgor ei gael yn euog o 16 cyhuddiad o droseddau rhyw gan gynnwys 12 cyhuddiad o dreisio plentyn.
Mae’n debyg bod David Hart, o ardal Treforys yn Abertawe, wedi bod yn bresennol yn ystod yr achos ond ei fod wedi mynd i Ysbyty Treforys ar ol cael ei daro’n wael.
Roedd yr achos wedi parhau yn ei absenoldeb a chafodd gwarant i’w arestio ei gyhoeddi am 4.30yp ddydd Mawrth ond nid oedd yr heddlu wedi gallu dod o hyd iddo.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De bod David Hart wedi cael ei arestio mewn eiddo yn Nhreforys nos Fercher.