Baner Cwrdiaid Irac
Gwnaeth 90% o bobol bleidleisio o blaid annibyniaeth mewn refferendwm yn rhanbarth Cwrdaidd Irac ddydd Llun (Medi 25), yn ôl y comisiwn etholiadol Cwrdaidd.
Nid yw’r refferendwm wedi cael ei ganiatáu gan Lywodraeth Irac, ac mae hi’n annhebygol y bydd y bleidlais yn arwain at annibyniaeth ffurfiol.
Yn ôl Comisiwn etholiadol y Cwrdiaid roedd 72% o bobol oedd yn gymwys wedi pleidleisio, a phleidleisiodd 92.73% o bobol o’i blaid.
Cafodd yr etholiad ei gynnal mewn tri rhanbarth Cwrdaidd lle mae pwerau wedi’u datganoli, yn ogystal â thiriogaethau dan reolaeth Cwrdiaid ond sydd wedi’u hawlio gan Baghdad.
Mae Baghdad wedi gorchymyn gwaharddiad ar deithiau awyr i’r rhanbarth – fydd yn dechrau ddydd Gwener – ac wedi galw ar y Cwrdiaid i ildio rheolaeth dros feysydd awyr yno.