Y digrifwr Steffan Evans, (Llun: o'i gyfrif Twitter)
Mae taith dau ddigrifwr o orllewin Cymru yn tynnu tua’i therfyn y penwythnos hwn.
Ers dechrau’r mis mae Elis James a Steffan Evans wedi cynnal mwy na deg o gigs o gwmpas Cymru wrth i Elis James baratoi at recordio sioe gomedi newydd ar gyfer S4C.
Yn cadw cwmni iddo ar hyd y daith gan berfformio’r act gyntaf mae Steffan Evans sy’n wreiddiol o Eglwyswrw yng ngogledd sir Benfro, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Esboniodd mai dyma un o’r profiadau gorau y mae wedi’u cael yn ei yrfa ac “mae’n eithaf neis i ddangos bod pobol y gorllewin yn gallu bod yn ddoniol,” meddai gan esbonio fod Elis James yn dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol.
‘Pynciau cryf’
Eglurodd Steffan Evans fod ei jôcs ef fel arfer yn tynnu oddi ar brofiadau personol a bod llawer o’i straeon yn codi o gymeriadau’r ardal yn Sir Benfro.
Mae hefyd yn sylwi ar y gwahaniaeth yn y ffordd o fyw mewn dinasoedd o gymharu â chefn gwlad ac yn cyfeirio’n aml at wahanol agweddau tuag at y Gymraeg.
“Weithiau mae’r pynciau’n gryf,” meddai. “Dw i’n gallu bod yn weddol grac am rai pynciau a phobol.”
Mi fydd yn perfformio gydag Elis James yn Y Fenni nos Iau (Medi 28) cyn i Elis James barhau i Abertawe nos Wener yng nghwmni Steffan Alun, cyn cloi’r daith gyda’r recordiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd nos Sadwrn (Medi 30).