Rhys Ifans yng Nghaerdydd (Llun: Mike Hall)
Mae 200 o ddisgyblion wedi cyfarfod â’r Rhys Ifans yng Nghaerdydd heddiw, lle bu’n siarad am ei angerdd am rôl ffilm mewn addysg.

Trefnwyd y digwyddiad gan Into Film Cymru, elusen addysg ffilm ledled gwledydd Prydain, fel rhan o raglen barhaus i roi ffilm wrth wraidd datblygiad dysgu a phersonol pobol ifanc.

Dyma’r ŵyl ffilm ieuenctid fwyaf y byd, sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc rhwng 5- a 19-mlwydd-oed fwynhau siwrnai addysgiadol, hwyliog, rhad ac am ddim i’r sinema leol, gan gynnwys bron i 200 o ddangosiadau a digwyddiadau ledled Cymru. 

Roedd y digwyddiad yn hyrwyddo gŵyl ffilmiau Into Film sy’n cael ei chynnal rhwng Tachwedd 8 a 24 eleni.

Mae clybiau Into Film a Gŵyl Ffilmiau Into Ffilm, yn rhoi cyfle i bob plentyn a pherson ifanc manteisio ar y cyfrwng pwerus hwn, sydd â hanes profedig o wella safonau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.

“Mae ffilm yn gyfrwng arbennig, mae’n mynd a myfyrwyr ar antur arbrofol a chyffrous, beth bynnag eu cefndir neu gallu,” meddai’r actor. 

“Yr hyn sy’n wych am Into Film Cymru – a’r ŵyl ffilm sy’n rhad ac am ddim – yw’r ffordd y maen nhw’n agor byd o bosibiliadau i bawb, waeth faint o arian sydd ganddynt yn eu pocedi. 

“Dw i wedi cael fy ysbrydoli gan y myfyrwyr dw i wedi cwrdd â nhw heddiw. Maen nhw’n hyderus yn trafod ffilm ac yn gallu mynegi eu barn yn angerddol. Dylai ffilm fod ar gael i bawb, a dw i eisiau annog ac hyrwyddo hyn i bawb.”