Myrddin ap Dafydd, cadeirydd newydd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru
Mae trefniadau Llyfr y Flwyddyn eleni wedi creu “tipyn o ddiflastod i bawb” yn ôl Cadeirydd newydd corff Cwlwm Cyhoeddwr Cymru.
Yn draddodiadol mae rhestr fer â seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn, tua mis Ebrill neu Mai – cyfnod sy’n dawel i gyhoeddwyr llyfrau Cymru, gyda’r brif seremoni ym mis Gorffennaf.
Ond, eleni bydd seremonïau a chyhoeddiadau Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cynnal ym misoedd Hydref a Thachwedd, ac mae disgwyl i hyn wrthdaro â chyfnod prysur y Nadolig.
Yn ôl y Prifardd a Chadeirydd, Myrddin ap Dafydd, mae Llenyddiaeth Cymru wedi “anwybyddu anghenion” y fasnach lyfrau.
“Mae’r [gwobrau] yn bwysig iawn i’r fasnach lyfrau ond mae Llenyddiaeth Cymru wedi anwybyddu anghenion a chalendr y fasnach lyfrau yn llwyr wrth symud popeth i ganol masnach brysur iawn Nadolig,” meddai wrth golwg360.
“Gwnaethon nhw oedi a cholli chwe mis o amser tyngedfennol o safbwynt beirniadu a gwneud trefniadau. Canlyniad hynny yw ei bod nhw’n creu’r cymysgwch yma. Mae’n hwyr iawn yn y flwyddyn i wobrwyo llyfr gorau llynedd.
“Diffygion gweinyddol ar ran Llenyddiaeth Cymru [sy’n gyfrifol] yn anffodus, ac mae’n creu tipyn o ddiflastod i bawb ar hyn o bryd.”
Y dyfodol
Mae’n debyg bod y sefydliadau wedi dechrau paratoi trefniadau 2018, a chanlyniad hynny yw bydd gwobrau blwyddyn nesaf yn cael eu cynnal ychydig yn gynharach – adeg yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ni fydd trefniadau 2018 yn “ddelfrydol” yn ôl Myrddin ap Dafydd ac mae’n pryderu y bydd hi’n cymryd dwy neu dair blynedd i ddychwelyd i’r hen drefn sydd yn “bechod mawr.”
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb Llenyddiaeth Cymru.