Singapôr
Mae deg o forwyr ar goll yn dilyn gwrthdrawiadd rhwng un o longau rhyfel yr Unol Daleithiau â thancer olew i’r dwyrain o Singapôr.
Mae pum dyn arall wedi eu niweidio, a bu’n rhaid cludo pedwar ohonyn nhw i ysbyty yn Singapôr i drin â’r anafiadau. Doedd yr anafiadau ddim yn ddifrifol.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y USS John S McCain a’r tancer am 5.24yb (amser lleol) fore ddydd Llun (Awst 21) yn ôl 7fed Fflyd, Llynges yr Unol Daleithiau.
Dyw hi ddim yn glir os wnaeth teithwyr a gweithwyr ar y tancer olew a chemegion gael eu hanafu.
Dyma’r ail waith mewn dau fis, i un o longau’r 7fed Fflyd wrthdaro â llong arall. Bu farw saith morwr ym mis Mehefin yn dilyn gwrthdrawiad rhwng yr USS Fitzgerald a llong nwyddau yn nyfroedd Japan.