Mae sylwadau gan Weinidog y Gymraeg, Alun Davies ynghylch ffrae iaith rhwng Aelod Cynulliad a Banc Lloyds wedi ennyn ymateb chwyrn gan ymgyrchydd iaith ar wefan gymdeithasol Twitter.
Roedd yr Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges wedi trydar y neges ganlynol at y Gweinidog yn tynnu sylw at y ffaith fod y banc wedi gwrthod derbyn llythyr Cymraeg wrth i’w ferch Catrin geisio agor cyfrif banc fel myfyrwraig:
@AlunDaviesAM lloyds bank refused to accept a letter from ucas in welsh. I find that unacceptable, they said get a copy in English
— Mike Hedges (@MikeHedgesAM) August 20, 2017
Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog wrth Mike Hedges:
That’s completely unacceptable. They should treat both Welsh and English equally. Email me.
— Alun Davies (@AlunDaviesAM) August 20, 2017
Wrth ymateb i’r llif negeseuon rhwng y ddau Aelod Cynulliad, tynnodd yr ymgyrchydd iaith Osian Rhys sylw at Safonau’r Gymraeg, gan ofyn i’r Gweinidog:
Wnewch chi ymrwymo i gynnwys banciau dan y Safonau felly? https://t.co/w0Xay3DAio
— osian (@caffiffortisimo) August 20, 2017
Dyma’i ateb cyntaf:
Does dim modd gwneud o dan y gyfraith presennol. Dyna pam dwi’n bwriadu cael deddf newydd pwerus i ehangu ein hawliau.
— Alun Davies (@AlunDaviesAM) August 20, 2017
Ond doedd Osian Rhys ddim yn hapus gyda’r ateb hwnnw, ac fe ailadroddodd ei gwestiwn.
Dyma ail ateb y Gweinidog:
Wrth gwrs mae’n ateb y cwestiwn. A dwi wedi bod yn hollol glir mod i eisiau sicrhau bod na gyfraith glir cryf i ddiogeli ein hawliau.
— Alun Davies (@AlunDaviesAM) August 20, 2017
Ond roedd Osian Rhys yn dal yn anfodlon, gan ofyn y cwestiwn unwaith eto:
Tri chynnig i Gymro.. Newch chi ymrwymo i gynnwys banciau o dan Safonau pan/os bydd y gyfraith wedi newid? Y dewis yw “Gwnaf” neu “Na wnaf”.
— osian (@caffiffortisimo) August 20, 2017
Hyd yma, dydy Alun Davies ddim wedi ateb y cwestiwn gafodd ei ofyn y trydydd tro.