Jacob Zuma, Arlywydd De Affrica
Mae disgwyl i bleidlais o ddiffyg hyder gael ei chynnal heddiw yn erbyn Arlywydd De Affrica, Jacob Zuma.
Er ei fod wedi goroesi sawl pleidlais debyg o’r blaen yn y Senedd, dyma fydd y tro cyntaf i’r bleidlais fod yn guddiedig.
Cyhoeddodd llefarydd Cynulliad Cenedlaethol De Affrica, Baleka Mbete, y byddai’r bleidlais gudd yn cael ei chynnal heddiw wrth siarad mewn cynhadledd newyddion yn Cape Town.
Dywedodd fod y penderfyniad i gynnal y bleidlais yn dilyn ymateb gan y cyhoedd.
Mae’r Arlywydd wedi wynebu galwadau i ymddiswyddo gan aelodau o’i blaid ei hun sef Cyngres Genedlaethol Affrica (ANC).
Mae honiadau ei fod yn gysylltiedig â sgandalau llygredd ac yn colli poblogrwydd ac fe allai’r bleidlais heddiw fod yn dyngedfennol wrth i aelodau fedru pleidleisio heb i’w harweinydd wybod.
Hyd yn hyn, mae Jacob Zuma wedi goroesi chwe phleidlais o ddiffyg hyder ers dod yn Arlywydd yn 2009.