Llun: PA
Mae dioddefwyr achosion o gam-drin plant yn rhywiol yn cael eu hannog i rannu eu profiadau’n gyfrinachol gyda’r Prosiect Gwirionedd yng ngogledd Cymru.

Mae’r prosiect yn rhan o’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ac yn rhoi’r cyfle i unigolion sydd wedi cael eu cam-drin i siarad am yr hyn oedd wedi digwydd iddyn nhw.

Fe fydd y rhai sy’n mynychu’r sesiynau hefyd yn cael y cyfle i wneud awgrymiadau ynglŷn â chamau i’w cymryd i atal achosion o gam-drin rhag digwydd yn y dyfodol.

Fe fydd pobl yn cael y cyfle i fynd i sesiynau unigol gyda pherson sydd wedi cael hyfforddiant priodol ym Mangor neu Gaernarfon.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu’n wreiddiol i geisio darganfod a oedd cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill wedi methu yn eu dyletswydd i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin.

Fe fydd gwybodaeth sy’n cael ei chasglu yn y sesiynau yn cael ei defnyddio i lywio argymhellion ar gyfer y llywodraeth ynglŷn â sut y gall plant gael eu diogelu’n well yn y dyfodol.

“Rhannu profiadau”

Mae’r ymchwiliad nawr wedi penodi aelod newydd i’r Panel Ymgynghorol Dioddefwyr a Goroeswyr, Emma Lewis, 37, sy’n weithiwr datblygiad cymunedol o Abertawe.

Hi yw aelod cyntaf y panel o Gymru. Bydd ail aelod panel o Gymru, sy’n cynorthwyo a chynghori’r Ymchwiliad, yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Meddai Emma Lewis: “Nid yw dioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol yn cael lle i fynegi eu meddyliau, syniadau a theimladau ar bob adeg, yn arbennig yng ngogledd Cymru ble ceir llawer o gymunedau gwledig.

“Mae’r Prosiect Gwirionedd yn rywle ble gall pobl rannu eu profiadau, heb gael eu barnu, cwestiynu na herio. Doedd hi ddim yn hawdd siarad am beth ddigwyddodd i mi – dwi’n gwybod y gall effeithio ar rywun, ond mae’r Prosiect Gwirionedd wedi ei gynllunio i wneud y broses mor hawdd â phosibl.”

“Gwrando”

Dywedodd Drusilla Sharpling, aelod o Banel yr Ymchwiliad a Chadeirydd y Prosiect Gwirionedd:

“Mae dioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol yng nghalon y Prosiect Gwirionedd. Rydym eisiau gwrando ar ddioddefwyr a goroeswyr, deall eu profiadau a dysgu ohonynt. Bydd eu mewnbwn yn ein helpu i stopio’r un patrymau cam-drin rhag digwydd eto yn y dyfodol.

“Felly mi hoffwn i ddweud wrth unrhyw ddioddefwyr a goroeswyr sy’n ystyried cysylltu â’r Prosiect Gwirionedd, byddwn yn gwrando arnoch, byddwn yn eich trin gyda pharch a bydd yr hyn fyddwch chi’n ei ddweud wrthym yn ein helpu i ddiogelu cenedlaethau o blant yn y dyfodol.”