Mae o leiaf wyth o bobol wedi cal eu lladd mewn cyfres o ffrwydradadau ym mhrifddinas Syria, Damascus.
Cafodd un o’r ffrwydradau ei achosi gan hunanfomiwr.
Ffrwydradau o dan reolaeth oedd y gweddill, yn ôl adroddiadau.
Dywedodd gorsaf deledu genedlaethol fod swyddogion diogelwch wedi dod o hyd i ddau fom car ar y ffordd i mewn i’r brifddinas, ac fe lwyddon nhw i atal ffrwydrad ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl Ramadan.
Yn ôl awdurdodau Syria, cafodd 12 o bobol eu lladd.
Fe fu lluoedd sydd o blaid yr Arlywydd Bashar Assad yn ceisio gwthio gwrthryfelwyr allan o Ain Terma, un o’u cadarnleoedd ar ochr ddwyreiniol y ddinas.