Hong Kong
Mae grwpiau sydd o blaid democratiaeth yn Hong Kong wedi trefnu protestiadau yn erbyn digwyddiadau i ddathlu ugain mlynedd o reolaeth China.

Mae tân gwyllt, sioe gala ac arddangosfa filwrol ymhlith y digwyddiadau swyddogol sydd wedi’u trefnu i gyd-fynd ag ymweliad Arlywydd China, Xi Jinping ddydd Iau.

Mae straeon newyddion ar y teledu yn China bob dydd yr wythnos hon i dynnu sylw at y berthynas rhwng y ddau le.

Ond mae’r gwirionedd yn dra gwahanol, gyda phobol ifanc yn gynyddol bryderus am afael arweinwyr Comiwnyddol China tros y diriogaeth a fu am gyfnod dan reolaeth y Deyrnas Unedig.

Rali annibyniaeth

Dywedodd aelod seneddol ieuengaf dinas Hong Kong, Nathan Law, 23, nad yw pobol yn “dathlu, ond yn poeni am ddyfodol Hong Kong a’i sefyllfa bresennol”.

Ddydd Llun, gorchuddiodd aelodau’r blaid Demosisto gerflun a gafodd ei rhoi i’r wlad gan Beijing yn 1997 â lliain ddu, fel symbol o “gyfundrefn awdurdodaidd”.

Fe fydd rali o blaid annibyniaeth yn cael ei chynnal nos Wener, a gorymdaith flynyddol o blaid democratiaeth ddydd Sadwrn.

‘Un wlad, dwy drefn’

Mae’r drefn yn Hong Kong yn cael ei disgrifio fel “un wlad, dwy drefn” gan China.

Un o’r prif ddadleuon rhwng y ddwy wlad yw achos pump o werthwyr llyfrau o Hong Kong oedd wedi’u cadw yn y ddalfa am hel clecs am wleidyddiaeth China gyda darllenwyr.

Mae un o’r pump yn dal i fod yn y carchar.

Mewn achos arall, aeth dyn busnes o China sydd â phasport Canada ar goll o westy yn gynharach eleni. Yn ôl adroddiadau, fe gafodd ei gipio gan asiantiaid diogelwch China yn Hong Kong.

Mae pryderon hefyd fod “cyfalaf coch” – neu arian busnes – yn llifo i mewn i Hong Kong o China wrth i ddynion busnes brynu eiddo er mwyn ehangu eu busnesau ar draul dynion busnes brodorol.

Urddo arweinydd newydd

Yn ystod ymweliad Xi Jinping, fe fydd arlywydd newydd Hong Kong, Carrie Lam yn cael ei hurddo.

Mae disgwyl i nifer y plismyn yn ninas Hong Kong gynyddu yn ystod yr ymweliad, ac fe fyddan nhw’n torri i lawr ar hawl pobol i arddangos baneri a delweddau gwleidyddol.