Mae Arlywydd Brasil wedi wfftio honiadau o lygredd, gan ddweud bod y cyhuddiad yn ei erbyn yn un ffug.
Yn ôl Michel Temer, does dim tystiolaeth ei fod e wedi derbyn taliadau llwgr.
Daw ei sylwadau ar ôl i Dwrnai Cyffredinol y wlad ei gyhuddo’n ffurfiol o dwyll.
Wrth siarad â’r wasg yn y brifddinas Brasilia, dywedodd Michel Temer fod ei fywyd a’i yrfa wedi bod yn “gynhyrchiol” a “glân”.
Fel cyfreithiwr, meddai, mae e’n gwybod pan fo cyhuddiadau’n ddi-sail, ac fe ddywedodd ei fod yn “ymosodiad ar ei onestrwydd”.