Fe ddylai Plaid Cymru a’r Blaid Lafur Cymreig fod wedi sefydlu dêl â’r Torïaid, yn ôl Arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad.
Daeth sylwadau Neil Hamilton yn ystod dadl frys ynglŷn â’r ddêl rhwng plaid y DUP a Llywodraeth y Ceidwadwyr yn Siambr y Senedd prynhawn ddoe.
Roedd yn ymateb i sylwadau’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Mark Reckless, wedi iddo honni y byddai Plaid Cymru wedi medru ffurfio Llywodraeth â’r Ceidwadwyr.
Gan fod saith Aelod Seneddol Sinn Fein yn gwrthod cynrychioli eu plaid yn San Steffan mae modd dadlau y gallai Llywodraeth fwyafrifol gael eu ffurfio â llai nag 326 sedd – mae gan Blaid Cymru a’r Torïaid 321 sedd rhyngddyn nhw.
“Methu’n llwyr”
“Mae’r DUP wedi gwneud beth oedden nhw wedi cael eu hethol i’w gwneud, cael y dêl orau i ogledd Iwerddon,” meddai Neil Hamilton. “Be mae Plaid Cymru yn gwneud? Maen nhw wedi cael eu hethol i gael y dêl orau i Gymru ond maen nhw wedi methu’n llwyr i gipio’r cyfle.”
Trodd wedyn at y Blaid Lafur Cymreig gan nodi y byddan nhw hefyd wedi medru sefydlu dêl…
“I ddweud y gwir yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, mi wnaeth y Blaid Lafur Cymreig bellhau eu hunain o’r blaid yn San Steffan ac mi roedden nhw’n ymddwyn fel nad oedd Jeremy Corbyn yn bodoli,” meddai.
“Pam nad ydyn nhw’n defnyddio eu hannibyniaeth i wneud dêl â Theresa May eu hunain? Galle’n nhw drawsnewid gwleidyddiaeth Brydeinig trwy dorri i ffwrdd o’r blaid Brydeinig a gwneud dêl er budd pobol Cymru.”