Mae'r ymosodiad brawychol diwethaf ar ddinas Brwsel ym Mawrth 2016 yn dal yn fyw yn y cof
Mae awdurdodau Gwlad Belg yn dweud eu bod wedi atal ymosodiad brawychol wedi i filwyr saethu dyn dan amheuaeth o achosi ffrwydrad mewn gorsaf drenau ym Mrwsel.
Cafodd y dyn ei saethu yn farw yn syth wedi’r ffrwydrad am tua 8.30yh nos Fawrth yng Ngorsaf Ganolig prifddinas y wlad.
Ni chafodd rhagor o ffrwydron eu darganfod ar ei gorff, er yr honiadau ei fod yn gwisgo belt o fomiau.
Yn ôl awdurdodau cafodd neb eu hanafu gan y ffrwydrad ac ni fydd lefel bygythiad brawychol y wlad yn cael ei godi o’r statws presennol.
Ers yr ymosodiad ar faes awyr Brwsel mis Mawrth y llynedd lle bu farw 32 o bobol, mae presenoldeb heddlu a milwyr wedi cynyddu mewn mannau cyhoeddus yng Ngwlad Belg.