Mae o leiaf 28 o bobol wedi marw a 22 wedi eu hanafu ar ôl i ddynion mewn mygydau saethu bws llawn Cristnogion Coptig, gan gynnwys plant, yn ne Cairo.
Roedd y bws ar ei ffordd i fynachlog anghysbell ym Minya ac yn teithio trwy anialwch pan darodd yr ymosodwyr.
Does dim un mudiad wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad – y pedwerydd ymosodiad yn targedu Cristnogion ers Rhagfyr – ond mae arbenigwyr yn amau mai’r Wladwriaeth Islamaidd sy’n gyfrifol.
Mae swyddogion meddygol a diogelwch yn pryderu gall nifer y meirw godi ymhellach ac mae’n debyg mae ond tri phlentyn wnaeth oroesi’r ymosodiad.
Bydd diogelwch o amgylch eglwysi, mynachdai, ysgolion ac ar gyfer safleoedd pererindod Gristnogol yn yr Aifft, mwy na thebyg yn cynyddu yn sgil yr ymosodiad.