Cliff Richard
Mae Heddlu De Swydd Efrog wedi talu iawndal i’r diddanwr Syr Cliff Richard, yn dilyn brwydr gyfreithiol dros adroddiadau’r wasg oedd yn honni ei fod dan amheuaeth o fod yn droseddwr rhyw.

Yn ystod gwrandawiad yn Llundain heddiw cadarnhaodd cyfreithwyr bod Cliff Richard a’r llu heddlu wedi dod i gytundeb o ran iawndal.

Roedd y canwr wedi gweithredu’n gyfreithiol yn erbyn y BBC a Heddlu De Swydd Efrog, yn dilyn sylw gan y darlledwr i gyrch yn ei fflat yn Berkshire ym mis Awst 2014.

Dywedodd eu bod wedi amharu ar ei hawl i fywyd preifat ac yr oedd am dderbyn  iawndal “sylweddol dros ben”.

Mae’r anghydfod yn parhau rhwng Cliff Richard a’r BBC gyda golygyddion yn mynnu eu bod yn bwriadu amddiffyn eu hunain “yn gryf”.