Jeremy Miles
Mae Aelod Cynulliad Llafur dros Gastell-nedd wedi dweud bod yr Etholiad Cyffredinol yn un “tyngedfennol” i Gymru yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth siarad â golwg360 diwrnod lansio maniffesto Llafur Cymru, dywedodd Jeremy Miles fod angen i Gymru “dangos bod gweledigaeth wahanol gennym ni”.
Cyhoeddodd y blaid ei maniffesto ddydd Llun gyda chyfres o addewidion i Gymru, yn ogystal â rhai cyffredinol eraill, fel ymrwymiad at forlyn llanw Abertawe, trydaneiddio’r rheilffyrdd a sefydlu banc datblygu newydd yng Nghymru.
“Mae lot o addewidion newydd yma, mae pethau sydd wedi dod yn sgil maniffesto San Steffan, mae mwy o fanylion am hynny yng Nghymru,” meddai Jeremy Miles.
“Un o’r pethau dw i’n hoffi am y maniffesto, os edrychwch chi ar y pethau ry’n ni wedi bod yn gwneud yma yng Nghymru mewn Llywodraeth, mae nifer o’r syniadau hynny wedi cael eu hallforio fel petai i’r maniffesto ar draws y Deyrnas Unedig.
“Mae hwnna’n gadarnhaol iawn i ni.”
Polisïau unigryw
Ond fe wnaeth Jeremy Miles hi’n glir bod gan Lafur Cymru gyfres o bolisïau unigryw i Gymru ar feysydd datganoledig pan gafodd ei holi ar ffioedd dysgu a chenedlaetholi diwydiannau – fel mae Jeremy Corbyn wedi addo.
“Lle mae polisi wedi’i ddatganoli, polisi Llafur Cymru ym maniffesto Cymru yw’r polisi sy’n berthnasol i ni yma yng Nghymru. Ond pan mae’r polisi ar draws y Deyrnas Gyfunol, wrth gwrs ein bod ni’n cefnogi’r polisi honno.”
“Etholiad tyngedfennol”
“Dw i mo’yn gweld cymaint o seddi Llafur ag sy’n bosib, mae’n hollbwysig bod Cymru yn dangos bod gweledigaeth wahanol gennym ni yng Nghymru,” ychwanegodd Jeremy Miles.
“Mae’r etholiad yma yn etholiad tyngedfennol, ar un olwg mae’n fwy na phwy yw’r arweinydd neu hyd yn oed beth yw manylion y maniffestos.
“Dw i’n gofyn i bobol ar y stepen drws i bleidleisio am y blaid sy’n cynrychioli gwerthoedd nhw. Ry’n ni’n sôn am y math o Brydain ry’n ni mo’yn gweld yn y degawdau sydd i ddod.
“Gan fod ni mas tu fas o’r Undeb Ewropeaidd, bydd y Llywodraeth yn San Steffan yn gwneud penderfyniadau pwysig ar ystod lot ehangach o feysydd polisi.
“Pethau ‘falle lle’r oedd yr Undeb Ewropeaidd yn creu math o safety net i ni, dyw’r pethau yna ddim yn mynd i fodoli yn y dyfodol ac felly mae’n rhaid i ni ddiffinio’r math o Brydain ry’n ni mo’yn gweld.”