Andrew RT Davies
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “fygwth” ffermwyr â mwy o waith papur wedi Brexit.
Yn Siambr y Senedd yr wythnos hon fe ddywedodd y Gweinidog Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y gallai gryfhau’r rheolau y mae ffermwyr yn rhwym iddyn nhw wedi i Gymru adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ei chyhuddo o geisio “dial” ar ffermwyr a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Cryfhau rheoliadau”
“Roeddwn i’n gryf o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd a bydd dim byd yn gwneud i fi gredu bod gadael, bod Brexit yn dda i ni, ond mae’n rhaid i ni edrych ar y cyfleoedd,” meddai Lesley Griffiths AC.
“Rheoliadau oedd un o’r rhesymau a roddwyd i fi dros pam bod y mwyafrif o’r ffermwyr wnes i siarad â nhw, wedi pleidleisio dros adael.
“Fodd bynnag, bydd safonau amgylcheddol a rheoliadau yn cael eu cynnal. Dw i’n cadw dweud hyn wrthyn nhw: gallwn ni eu cryfhau lle bo angen.
“A phan fyddwn yn edrych arnyn nhw i gyd yn unigol, mae miloedd o reoliadau yn fy mhortffolio, a gallwn ni gryfhau rhai ohonyn nhw.
“Felly, efallai y dylai rhai ohonyn nhw fod yn ofalus am yr hyn wnaethon nhw ddymuno. Felly, dylwn i ddweud bod trefn reoleiddio yn hanfodol. Fodd bynnag, bydd rhaid i ni edrych arno ar sail achosion unigol.”
Lambastio sylwadau Lesley Griffiths
Mae Andrew RT Davies, sy’n ffarmwr ei hun ac oedd yn gryf o blaid Brexit, wedi lladd ar sylwadau’r Gweinidog Amgylchedd a Materion Gwledig, gan ddweud ei bod yn codi braw ar ffermwyr.
“Bydd colbio ffermwyr â mwy o faich rheoliadau ond yn digalonni ffermwyr ac yn cynyddu’r pwysau ar eu busnesau,” meddai.
“Byddai hyn ddim yn unig yn niweidio’r economi amaethyddol ond yn niweidio economi Cymru gyfan.
“Yn hytrach na cheisio dial, dylai’r weinyddiaeth Lafur lunio cynlluniau i’w wneud yn haws i’r economi amaeth dyfu ac osgoi’r anfodlonrwydd cyffredin a arweiniodd at bleidlais Brexit yn y lle cyntaf.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.