Does dim un o’r prif bleidiau yn cynnig “set onest o ddewisiadau” i’r cyhoedd o ran cynlluniau trethu a gwariant, yn ôl un sefydliad.
Yn ôl adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) mi fyddai targed y Torïaid i dorri mewnfudo yn costio £6 biliwn a gall toriadau pellach fod yn niweidiol i wasanaethau cyhoeddus.
Bydd cynlluniau’r Ceidwadwyr yn arwain at “Senedd arall o gyni cyllidol” ac mae’r sefydliad yn honni y byddai’n anodd gweithredu eu cynlluniau ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.
O ran y Blaid Lafur mae’r IFS yn mynnu na fyddai’r blaid yn medru codi £48.6 biliwn trwy eu cynllun trethu arfaethedig a byddai eu cynlluniau yn “niweidio’r economi”.
Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod Llafur am weld “corfforaethau anweledig” yn talu am eu prosiectau, ond mewn gwirionedd ni fyddai codi trethi’r cyfoethog yn ddigon i ariannu eu cynnydd mewn gwariant.