Ysgol Griffith Jones
Dyw’r diwygiwr crefyddol o Sir Gaerfyrddin wnaeth sefydlu’r ‘ysgolion cylchynol’ yng Nghymru ddim wedi cael digon o sylw, yn ôl y Prifardd Aneirin Karadog.
Eleni mae’r bardd o Bontyberem wedi bod yn rhan o brosiect i ddathlu 25 mlynedd ers i ysgol gynradd San Clêr, sy’n dwyn enw’r diwygiwr, symud i’w safle newydd ac agor ffrwd Gymraeg yno.
“Ar y dechrau roeddwn i’n ystyried Griffith Jones yn arwr a chymeriad lleol,” meddai Aneirin Karadog wrth golwg360.
“Ond ers gwneud y prosiect dw i’n meddwl ein bod ni’n ei esgeuluso fel ffigwr cenedlaethol o bwys… yn ei ddydd fe ddechreuodd e roi addysg i bobol am ddim a hynny yn Gymraeg yn ei ysgolion cylchynol,” meddai.
“Dw i’n credu bod angen inni wneud mwy o ffws am Griffith Jones yng Nghymru.”
300:25
Ers dechrau’r flwyddyn, mae Aneirin Karadog wedi bod yn cynnal gweithdai yn Ysgol Griffith Jones yn San Clêr gyda disgyblion y ffrwd Gymraeg a Saesneg.
Mae ffrwyth eu gwaith yn cael ei arddangos mewn sioe o’r enw 300:25 yn yr ysgol heddiw, gyda’r disgyblion wedi cydweithio â’r arlunydd Meinir Mathias a’r ffotograffydd Lleucu Meinir.
“Mae’n gyfle i ddathlu’r ysgol, a hefyd mae’n gyfle i ddathlu ei bod hi o gwmpas 300 mlynedd ers i Griffith Jones symud i Landdowror a dechrau’r gwaith o sefydlu’r ysgolion cylchynol,” meddai Aneirin Karadog.
Mae’r prosiect wedi’i gomisiynu gan gwmni theatr Arad Goch gyda’r plant wedi ymchwilio i hanes yr ardal.
Pwy oedd Griffith Jones?
Cafodd Griffith Jones (1683 – 1761) ei eni ger pentref Penboyr, Sir Gâr a’i ordeinio’n offeiriad yn 1708.
Er nad oes dyddiad penodol i nodi pryd y cafodd yr ysgolion cylchynol eu sefydlu, fe allai’r gwaith fod wedi dechrau ar ôl tua 1716 wedi i Griffith Jones symud i Landdowror gan ddod yn rheithor yno.
Roedd Griffith Jones yn aelod o’r Gymdeithas Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol (SPCK), ac yn 1731 ysgrifennodd at y gymdeithas honno yn awgrymu sefydlu ysgol Gymraeg yn Llanddowror.
Roedd yr ysgolion yn cael eu cynnal fel arfer yn y gaeaf pan oedd llai o waith ar y ffermydd. Byddai plant yn cael eu haddysgu i ddarllen y Beibl Cymraeg, a byddai’r athrawon yn cael eu haddysgu gan Griffith Jones yn Llanddowror.
“Gallwn ddechrau ar y dathliadau nawr, ond mae angen dechrau ar gyfnod o godi ymwybyddiaeth hefyd,” meddai Aneirin Karadog.