Mae corwynt yn yr Unol Daleithiau wedi lladd dau o bobol – y naill yn Wisconsin a’r llall yn Oklahoma.

Mae stormydd wedi taro ardaloedd eang o dir rhwng Texas a’r Llynnoedd Mawr.

Mae’r gwaith o geisio achub pobol wedi dechrau, ac mae lle i gredu bod nifer o blant ymhlith y rhai sydd wedi cael eu hanafu.

Mae gwifrau trydan wedi cael eu dinistrio yn y ddwy dalaith, ynghyd â degau o gartrefi ac adeiladau.

Mae’r stormydd hyd yma wedi taro Texas, Oklahoma, gorllewin Kansas, Nebraska, Iowa, Minnesota a Wisconsin.

Mae mwy nag 20 o adroddiadau o gorwyntoedd yn yr ardaloedd hynny, ond mae lle i gredu mai adroddiadau am yr un corwynt yw rhai ohonyn nhw.