Ceudyllau Llechwedd (Llun cyhoeddusrwydd)
Heno, mi fydd Ceudyllau Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog yn darganfod os ydyn nhw wedi ennill un o wobrau’r Amgueddfeydd a Threftadaeth Genedlaethol.
Eleni yw pymthegfed flwyddyn y gwobrau sydd yn cydnabod prosiectau arloesol mewn galerïau ac atyniadau ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Mae’r atyniad wedi llwyddo cyrraedd rhestr fer am y ‘wobr arloesi’ yn bennaf oherwydd eu taith danddaearol ryngweithiol – prosiect a gostiodd tua £130,000.
“Y flwyddyn cyn llynedd mi wnaethon ni wario tipyn o arian er mwyn defnyddio technoleg o’r 21ain ganrif i adrodd stori o’r 19eg ganrif” meddai Rheolwr Gweithrediadau Llechwedd, Kate Knowles wrth golwg360.
efnyddio tafluniadau anferth ar wyneb y ceudwll ac ipods i ddweud stori draddodiadol o sut oedd llechi yn cael eu cludo o’r chwarel mewn ffordd newydd a rhyngweithiol. Mae’r delweddau sy’n cael eu taflunio yn anhygoel.”
Noson fawreddog
Ymysg atyniadau eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y ‘wobr arloesi’ mae prosiectau gan y Ganolfan Holocost Cenedlaethol a sefydliad y Palasau Brenhinol Hanesyddol.
Bydd enillwyr y gwobrau yn cael eu cyhoeddi yn ystod cinio mawreddog yn Llundain.