Mae dau ddyn hoyw wedi cael eu dedfrydu i gael eu taro â chansen yn gyhoeddus yn Indonesia.
Hwn yw’r achos dadleuol diweddaraf yn y wlad lle mae gwleidydd Cristnogol wedi cael ei garcharu am gabledd yn ddiweddar.
Dywedodd y llys y byddai’r ddau ddyn, 20 a 23 oed, yn cael eu taro 85 o weithiau â chansesn am gael perthynas rywiol.
Plediodd un o’r dynion am drugaredd ar Ddiwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia.
Ond dywedodd yr erlynydd y bydden nhw’n cael eu cosbi cyn dechrau Ramadan yr wythnos nesaf.
Y cefndir
Cafodd y ddau ddyn eu harestio ym mis Mawrth ar ôl i drigolion lleol dorri i mewn i’w cartref a’u gweld nhw’n cael rhyw.
Cafodd deunydd fideo ei gyhoeddi ar y we, a chafodd hynny ei ddefnyddio fel tystiolaeth yn eu herbyn yn y llys.
Penerfynodd y tri barnwr yn y llys na fydden nhw’n rhoi’r gosb fwyaf o guro 100 o weithiau oherwydd bod y dynion yn gwrtais yn y llys a’u bod nhw wedi cydymffurfio â’r ymchwiliad.
Mae grwpiau hawliau dynol wedi beirniadu’r llys am y modd y cafodd y tri dyne u trin ganddyn nhw.