Mae cyfradd ddiweithdra Cymru ar ei hisaf ers 1975.
Roedd 53,000 yn llai o bobol yn ddi-waith yn y chwarter diwethaf, gyda’r ffigwr wedi gostwng i 1.54 miliwn hyd at fis Mawrth, sy’n cyfateb i gyfradd o 4.6%.
Mae nifer y bobol sy’n gweithio wedi codi 122,000 i oddeutu 32 miliwn, y nifer fwyaf ers i gofnodion gael eu cychwyn gan y Swyddfa Ystadegau yn 1971.
Enillion
Roedd enillion ar i fyny o 2.4% hyd at fis Mawrth, 0.1% yn uwch na mis Chwefror ac yn is na’r lefel chwyddiant bresennol o 2.7%.
Cwympodd cyfartaledd enillion wythnosol o 0.2% ar ôl chwyddiant, a thrwy eithrio bonws dros y flwyddyn gyfan.
Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae gwelliant yng nghyfradd anweithgarwch economaidd Cymru wedi mynd y tu hwnt i rannau eraill o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros y flwyddyn ddiwethaf, tra bod cyflogaeth yng Nghymru wedi gwella ar gyfradd sy’n fwy na dwbl cyfartaledd y Deyrnas Unedig dros yr un cyfnod.”
Ffigurau allweddol eraill
– Cynnydd o 19,400 yn y nifer o bobol sy’n hawlio budd-daliadau i 792,800;
– Nifer y bobol sy’n economaidd anweithgar wedi gostwng 40,000 i 8.8 miliwn;
– Anweithgarwch yn 21.5% o bob person 16-64 oed, yr isaf erioed;
– Cynnydd o 207,000, i 3.5 miliwn, yn nifer y bobol o’r tu allan i wledydd Prydain sydd mewn gwaith yng Nghymru;
– Y nifer fwyaf erioed o swyddi (777,000) ar gael – cynnydd o 22,000 yn ystod y chwarter;
– Cynnydd o 82,000 yn nifer y bobol sy’n hunangyflogedig i 4.78 miliwn – 15% o’r holl weithwyr;
– Gweithwyr teuluol di-dâl wedi codi 15,000 i 117,000.