Emmanuel Macron a Marine Le Pen (Llun: PA)
Mae Ffrancwyr wedi dechrau pleidleisio i ddewis Arlywydd nesa’r wlad.
Ras yw hi rhwng yr ymgeisydd annibynnol Emmanuel Macron a’r ymgeisydd asgell dde eithafol, Marine Le Pen.
Emmanuel Macon yw’r ffefryn o hyd, ac mae disgwyl i’r canlyniadau fod wedi dechrau cael eu cyhoeddi erbyn i orsafoedd pleidleisio gau heno am 8 o’r gloch.
Mae disgwyl i’r Undeb Ewropeaidd fod yn ffactor sylweddol wrth i bobol ddewis eu harweinydd newydd, gydag Emmanuel Macron o blaid aros a Marine Le Pen yn dymuno gadael.
Mae Marine Le Pen yn awyddus i fanteisio ar deimladau gwrth-Islamaidd y wlad yn dilyn nifer o ymosodiadau brawychol yn Ffrainc yn ddiweddar.