Mae dyn 23 oed wedi marw ar ol cael ei drywanu yn Llundain – un o nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â chyllyll ym mhrifddinas Lloegr yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Fe gafwyd y dyn yn anymwybodol toc wedi 1 o’r gloch y bore, ddydd Sadwrn, Mai 6, wedi i’r gwasanaeth ambiwlans alw am help yn ardal Pont Waterloo yn Uxbridge.

Roedd y dyn yn dod o Hayes yng ngorllewin Llundain, ac er iddo gael ei gludo i’r ysbyty, bu farw o’i anafiadau yn ddiweddarach.

Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod nhw’n trin y digwyddiad fel achos o lofruddiaeth, ac maen nhw’n galw ar dystion i ddod ymlaen. Does yna neb wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad hyd yn hyn.