Helmand
Mae pedwar o blismyn wedi’u saethu’n farw yn nhalaith Helmand, Afghanistan.

Fe ddaeth cadarnhad gan brif heddwas yr ardal fod y pedwar wedi’u lladd nos Iau yr wythnos hon, a hynny ar gyrion Lashkar Gah, prifddinas y dalaith.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio penderfynu a gafodd y pedwar eu saethu gan rywun “y tu fewn” i’r gwasanaeth heddlu.

Hyd yn hyn, does yr un grwp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.