Glyn Davies
Mae Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, wedi croesawu canlyniadau’r etholiadau lleol ym Mhowys – gan alw Mai 4 yn “ddiwrnod mawr” i’r Blaid Geidwadol yn y sir.
Ddydd Iau, fe etholwyd 19 o gynghorwyr Ceidwadol ar Gyngor Powys, o gymharu â’r 10 gafodd eu hethol yn 2012. Yn Sir Drefaldwyn, fe gynyddodd y nifer o 5 i 14.
“Roedd Mai 4 yn ddiwrnod arbennig yn hanes y Blaid Geidwadol ym Mhowys, ” meddai Glyn Davies. “Dydw i erioed wedi gweld y fath lwyddiant i’r Ceidwadwyr Cymreig o’r blaen.
“Ryden ni’n gwybod fod y gwaith caled o’n blaenau. Fe fydd yn rhaid gwneud y penderfyniadau anodd, sydd wedi’u gadael heb eu gwneud hyd nawr. Ac mae’n rhaid i ni wneud yr hyn sy’n iawn i bobol Powys.
“Ryden ni’n agored i gydweithio gyda’r cynghorwyr Annibynnol hynny sydd wedi’u hethol ac sy’n rhannu ein gweledigaeth ni ynglyn â gwasanaethu pobol Powys.”