Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n gwybod beth ysgogodd myfyriwr ym Mhrifysgol Tecsas i drywanu un person ar y campws ac anafu tri o bobl eraill yn ddifrifol.
Roedd y dyn 21 oed sy’n cael ei amau o gynnal yr ymosodiad, ac sydd wedi cael ei adnabod fel Kendrex White, wedi ildio i’r heddlu yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd pennaeth yr heddlu yn y brifysgol David Carter ei bod yn “rhy gynnar” i drafod y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad.
Cafodd y bobl eu trywanu o fewn un ardal o’r campws wrth i’r ymosodwr “gerdded o gwmpas y plaza.”
Mae llywydd y brifysgol Greg Fenves wedi anfon ei gydymdeimlad at y dioddefwyr gan ddweud ei fod yn “torri ei galon.”