George Osborne Llun: PA
Fe fydd George Osborne yn dechrau ar ei swydd newydd heddiw fel golygydd yr Evening Standard.

Fe gyhoeddodd y cyn-Ganghellor ym mis Mawrth y byddai’n golygu’r papur newydd yn Llundain  gan ddweud ei fod “wrth ei fodd.”

Cafodd ei feirniadu am gymryd y swydd golygu tra’n dal i fod yn Aelod Seneddol yn etholaeth Tatton yn Swydd Gaer.

Ond ar ôl i’r Prif Weinidog Theresa May gyhoeddi ei bod yn cynnal etholiad cyffredinol brys ar 8 Mehefin, fe gyhoeddodd George Osborne ei fod yn rhoi’r gorau i’w sedd.