bban
Mae cyn-arweinydd grŵp milwrol jihad wedi cael ei ddienyddio yn Bangladesh am ymosodiad â bom llaw yn erbyn diplomydd o wledydd Prydain mewn man cysegredig Islamaidd yn 2004.
Cafodd dau arall a oedd yn rhan o’r ymosodiad ar yr Uwch Gomisiynydd Prydeinig, Anwar Choudhury, eu crogi hefyd.
Fe ddihangodd Anwar Choudhury heb ei anafu, ond fe laddwyd tri o bobol eraill ac fe gafodd sawl un arall ei anafu.
Crogwyd Mufti Hannan, pennaeth Harkatul Jihad – grŵp sydd wedi’i wahardd yn y wlad – y tu allan i’r brifddinas, Dhaka, ddydd Mercher. Roedd yr Uchel Lys a’r Goruchaf Lys wedi gwrthod apêl y tri dyn am drugaredd.
Roedd Harkatul Jihad am gyflwyno cyfraith Sharia i Bangladesh, sy’n wlad Fwslimaidd ond yn cael ei llywodraethu gan gyfraith sydd wedi’i seilio ar gyfraith Brydeinig.
Mae’r grŵp wedi cael y bai am ymosodiadau eraill rhwng 1999 a 2005 sydd wedi lladd dros 100 o bobol.