Mae dynes wedi marw ar ol cwympo o gwch ar Lough Erne, Gogledd Iwerddon.

Fe ddigwyddodd yr hyn sy’n cael ei hystyried yn ddamwain, yn Devenish Island ger Enniskillen tua 1.20yb ddydd Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i chwilio am y wraig a oedd yn ei 30au. Fe ddaethpwyd o hyd iddi awr a hanner yn ddiweddarach.

Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn cynnal ymchwiliad i amgylchiadau’r farwolaeth, ac mae prawf post-mortem yn cael ei gynnal heddiw.