Mae cyfreithwyr dwy ddynes sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio Kim Jong Nam yn dweud nad yw heddlu Malaysia wedi rhoi ffilm camerâu diogelwch na thystiolaeth hanfodol iddyn nhw.
Rhybuddiodd y cyfreithiwr Gooi soon Seng yn y llys ddydd Iau na ddylai fod “achos i osod rhagod” ar y menywod.
Cafodd yr achos ei ohirio tan Fai 30.
Y menywod yw’r unig bobol dan amheuaeth sydd wedi’u cadw yn y ddalfa yn achos llofruddiaeth Kim Jong Nam – hanner brawd arweinydd Gogledd Corea – Kim Jong Un.
Mae Siti Aisyah o Indonesia a Doan Thi Huong o Fietnam wedi’u cyhuddo o rwbio math o gemegyn ar wyneb Kim Jong Nam mewn maes awyr yn Kuala Lumpur.
Maen nhw’n dweud eu bod wedi cael eu twyllo i feddwl eu bod yn cymryd rhan mewn jôc ddiniwed.
Fe wnaeth pedwar person o Ogledd Corea sy’n cael eu hamau o gymryd rhan yn y cynllwyn, adael y wlad ar ddiwrnod y llofruddiaeth.