Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd
Mae 11 o brosiectau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yng Nghymru wedi llwyddo i ennill gwerth £7.3m o grantiau trwy un o gronfeydd Llywodraeth Cymru.

Daw’r grantiau o’r ‘Cronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg’ sydd yn cefnogi prosiectau sy’n datblygu technoleg arloesol er mwyn gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ymysg y prosiectau llwyddiannus mae prosiect fydd yn datblygu dulliau i wella diagnosis heintiau’r stumog a’r coluddyn fydd yn derbyn £2.5m, a phrosiect i ddatblygu e-ffurflenni fydd yn derbyn £1.18m.

Roedd 142 prosiect wedi danfon ceisiadau am grantiau yn ystod cylch ceisiadau flwyddyn ddiwethaf.

“Cynlluniau arloesol”

“Mae’n bleser gallu ariannu’r 11 prosiect newydd hyn sydd â’r nod o wella effeithlonrwydd ein gwasanaethau gofal iechyd yma yng Nghymru,” dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Mae’n wych gweld sefydliadau’n dyfeisio cynlluniau arloesol i wella ein gwasanaethau gofal iechyd. Dw i’n edrych ymlaen at ymweld â rhai o’r prosiectau yn y dyfodol agos i weld yr hyn maen nhw’n ei gyflawni â’m llygaid fy hun.”