Ni fydd modd i neb ysmygu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, yn ôl trefnwyr yr ŵyl.
Bydd gwaharddiad mewn grym ar Faes yr Eisteddfod dros chwech niwrnod yr ŵyl ym Mhen-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr ddiwedd Mai, er mwyn hyrwyddo “amgylchedd lân ac iach”.
Daw’r cam fel rhan o ymgyrch ‘Haf Di-fwg’ mudiad ASH Cymru, ac mae’n debyg mai Eisteddfod yr Urdd fydd y digwyddiad mawr cyntaf yng Nghymru i ymuno â’r ymgyrch.
Mae gwaharddiad rhannol ar alcohol eisoes yn weithredol yn yr ŵyl, a does ond modd prynu diod gadarn mewn un bwyty penodol ar y Maes.
“Amgylchedd lân ac iach”
“Rydym yn falch ein bod yn un o brif wyliau Cymru sydd wedi gwahardd ysmygu ar y Maes,” meddai Morys Gruffudd, Trefnydd Eisteddfod yr Urdd.
“Mae’n ŵyl deuluol sydd yn denu tua 90,000 yn ystod yr wythnos ac mae ond yn iawn ein bod yn gwahardd ysmygu er mwyn cynnig amgylchedd lân ac iach i’r ymwelwyr.”