Mae gŵyl delynau yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon yr wythnos hon gyda’r bwriad o ddathlu’r cysylltiad rhwng Cymru ac Iwerddon.
Un o Gyfarwyddwyr Canolfan Gerdd William Mathias, Elinor Bennett, sydd wedi trefnu’r ŵyl a dywed iddi drefnu dros ddeugain o wyliau o’r fath ar hyd y blynyddoedd.
“Ryden ni wedi gwahodd telynorion o Iwerddon, o Loegr ac o’r Alban, felly mae’n ŵyl Geltaidd iawn,” meddai’r delynores wrth golwg360.
Chwedl Glyn Achlach
Yn rhan o’r ŵyl ddeuddydd bydd cwrs i delynorion ynghyd â darlith gan Dr Sally Harper ar gysylltiad telynorion Cymreig a Gwyddelig wrth iddi gyfeirio at y chwedl ganoloesol, Glyn Achlach.
“Rwy’n edrych ymlaen at glywed beth ddigwyddodd pan aeth ‘Tywysog Cymru’, Gruffydd ap Cynan, â thelynorion o Iwerddon i gyfarfod eu cefndryd Celtaidd yng Nghymru,” meddai Elinor Bennett gan esbonio fod y chwedl yn ymwneud â chyngor o delynorion oedd eisiau cofnodi a diogelu’r traddodiadau.
I gloi’r ŵyl, bydd cyngerdd o’r enw ‘Telynau’r Môr Celtaidd’ yn cael ei chynnal nos Iau, gydag enillydd Ysgoloriaeth Nansi Richards yn cael ei gyhoeddi.
Mae’r trefnwyr yn edrych ymlaen hefyd at gynnal Gŵyl Delynau Rhyngwladol yng Nghymru’r flwyddyn nesaf.