Sister Sledge (Llun o wefan y band)
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Joni Sledge, aelod o’r triawd o chwiorydd Sister Sledge, sydd wedi marw’n 60 oed.

Dywedodd Nile Rodgers, cyd-awdur yr albwm We Are Family eu bod nhw wedi “gwneud rhywbeth anhygoel” gyda’i gilydd.

Roedd yr albwm yn cynnwys y gân The Greatest Dancer.

Cafodd y band ei ffurfio gan y chwiorydd Debbie, Kim a Kathy yn 1971.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad eu bod nhw’n “gweld ei heisiau”.

Ar dudalen Twitter y band, mae llun ohoni a’r neges “We love you Joni”.

Mae sêr eraill o’r byd cerddorol wedi talu teyrnged iddi, gan gynnwys La Toya Jackson.

Cafwyd hyd iddi’n farw yn ei chartref yn Arizona ddydd Gwener.

Mae hi’n gadael mab.