Madeleine McCann (Llun: PA)
Mae’r heddlu sy’n chwilio am Madeleine McCann wedi cael hwb ariannol a fydd yn eu galluogi i barhau i chwilio amdani am chwe mis arall.

Mae Operation Grange wedi derbyn £85,000 gan y Swyddfa Gartref er mwyn parhau â’r chwilio tan fis Medi.

Aeth Madeleine McCann, oedd yn dair oed ar y pryd, ar goll o fflat gwyliau ei theulu yn Praia da Luz ym Mhortiwgal ym mis Mai 2007.

Mae ei rhieni Kate a Gerry wedi dweud na fyddan nhw fyth yn rhoi’r gorau i chwilio am eu merch fach.

Mae Heddlu Llundain wedi bod yn chwilio amdani ers 2011 ac yn ôl adroddiadau, maen nhw’n awyddus i holi un unigolyn oedd yn yr ardal pan aeth hi ar goll.

Hyd yma, mae £11.1 miliwn wedi cael ei wario ar Operation Grange.