Mae dyn oedd yn esgus bod yn Justin Bieber er mwyn cael lluniau anweddus o blant – gan gynnwys hyd at 20 yn y Deyrnas Unedig – wedi’i gael yn euog o dros 900 o droseddau rhyw.
Mae 931 o droseddau Gordon Douglas Chalmers, darlithydd y gyfraith yn Brisbane, Awstralia, yn mynd yn ôl degawd ac yn cynnwys treisio a chreu deunydd sy’n ecsbloetio plant.
Mae’n debyg wnaeth y dyn 42 oed ddefnyddio Facebook a Skype i ddynwared y canwr a chysylltu â phlant, yn ôl heddlu Awstralia.
Yn ôl swyddogion, mae ei droseddau yn cynnwys 151 o ddioddefwyr honedig, gan gynnwys 20 o blant o wledydd Prydain.
Mae’r heddlu bellach yn galw ar gefnogwyr Justin Bieber a’u rhieni i fod yn wyliadwrus wrth ddefnyddio’r we.