Dan gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru, fe fydd hi bellach yn ofynnol i sefydliadau Cymru gyflwyno datganiadau ysgrifenedig ar eu hymdrechion i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern.
Mae’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol yn golygu mai Cymru yw’r wlad gyntaf i fynd y tu hwnt i’r ddeddfwriaeth Brydeinig ar daclo caethwasiaeth.
Mae’r cod yn golygu cydweithio â’r gofrestr agored ar gaethwasiaeth ym Mhrydain, drwy ychwanegu’r datganiadau ar wefan Tiscreport, bas-ddata lle gall unrhyw un edrych am gwmnïau gwrth-caethwasiaeth.
“Gwaith arloesol”
“Dyma ddarn o waith arloesol, ac mae’n enghraifft wych o’r hyn y gallwn ni ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol drwy Gymru gyfan,” meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
“Mae sector cyhoeddus Cymru’n gwario tua £6 biliwn bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy’n dibynnu ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol. Yr hyn sy’n gyffredin i bob un o’r cadwyni cyflenwi hyn yw’r bobl sy’n rhan o bob cam.
“Mae’n hanfodol felly fod arferion cyflogaeth da yn rhan annatod o holl brosiectau’r sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Bydd y cod newydd hwn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gyflawni hyn. Yn ei dro, bydd hefyd yn mynd i’r afael ag arferion cyflogaeth annheg ac yn cyfrannu at gael amodau gwell i’r gweithwyr.
“Rwy’n disgwyl i bob corff cyhoeddus, pob busnes a phob cyflenwr y sector cyhoeddus yng Nghymru ymrwymo i’r cod hwn. Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni helpu i sicrhau gwell amodau, ac yn bwysicach na hynny amodau tecach, i weithwyr y gadwyn gyflenwi yng Nghymru ac ar draws y byd.”
“Angen gweithredu nawr”
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield, “Mae Llywodraeth Cymru’n arddel ymrwymiad cadarn i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth sy’n ecsploetio ac sy’n anfoesol ac mae’n cymryd camau i newid hynny. Mae TUC Cymru eisiau gweld y Llywodraeth yn defnyddio’i holl bwerau a’i dylanwad i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg yn y gwaith.
“Mae gan Gymru lawer o gyflogwyr arbennig o dda sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa a datblygu i staff ac yn cydweithio gydag undebau. Ond, mae gormod o reolwyr gwael yn parhau i fodoli sy’n ecsploetio gweithwyr ac yn tanseilio safonau er eu lles a’u cyfoeth eu hunain.
“Mae’r cod hwn yn dangos na fydd Cymru’n goddef unrhyw fath o ecsploetio. Mae angen gweithredu nawr i sicrhau mai gwaith safonol a thriniaeth deg yw’r unig ffordd ymlaen yng Nghymru.”