Mae profion DNA gan Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai corff Sandra Bowen gafodd ei ddarganfod ger cronfa ddŵr yng Nghoed Gwent, Casnewydd fis diwethaf.
Cafodd ei gwr, Mike Bowen, ei ddedfrydu i 15 mlynedd o garchar ar ôl ei lladd yn 1997, ond nid yw erioed wedi datgelu lle cafodd y corff ei guddio.
Mae heddlu yn amau cafodd y fenyw ei lladd yn ystod ymosodiad wedi i’w gwr ddarganfod ei bod yn cael perthynas â dyn arall.
Cyfaddefodd yn 2003 ei fod yn gyfrifol am ei lladd, ond gwrthododd ddatgelu lleoliad ei chorff a bu heddlu yn amau ei bod wedi ei chladdu yng Nghoed Gwent.
“Mae archwiliad post mortem o’r corff wedi ei chynnal ac mae dadansoddiad o sampl DNA gafodd ei dynnu o’r esgyrn wedi cadarnhau mai corff Sandra Bowen yw e,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.
“Rydym wedi rhoi gwybod i deulu Sandra am ganlyniad y dadansoddiad DNA, ac mae swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth iddyn nhw.”