Cysegr Lal Shahbaz Qalandar (Saqib Qayyum CCA3.0)
Mae lluoedd diogelwch Pacistan wedi lladd o leia’ 39 o bobol oedd yn cael eu hamau o fod yn frawychwyr ar ôl i hunan-fomiwr ladd ei hun a 75 o bobol mewn ymosodiad ar gysegr Swffi yn ne’r wlad.
Y Wladwriaeth Islamaidd [IS] a hawliodd gyfrifoldeb am yr ymosodiad gan dargedu casgliad o bobol Shïaidd.
Dywedodd swyddogion fod y cyrchoedd dros nos wedi arwain at arestio 47 o bobol hefyd – yn union wedi’r ymosodiad, roedd un o arweinwyr y fyddin wedi addo dial didrugaredd.
Cafodd un person ei arestio yn nhalaith Sindh y wlad, lle ddigwyddodd yr ymosodiad ddydd Iau.
Fe wnaeth yr hunan-fomiwr gerdded i gysegr Lal Shahbaz Qalandar yn Sehwan, gan danio ei ffrwydron ymhlith torf o bobol, a llawer ohonyn nhw’n wragedd a phlant.
Dyma oedd yr ymosodiad gwaethaf ym Mhacistan ers blynyddoedd ac mae wedi synnu’r wlad a chodi cwestiynau am allu’r awdurdodau i frwydro yn erbyn grwpiau militaraidd.