Donald Trump yn ymgyrchu - mae ei feirniaid yn dweud ei fod yn parhau i ymddwyn yn yr un ffordd wedi dod i'r swydd (Michael Vadon CCA4.0)
Mae’r berthynas rhwng Donald Trump a’r wasg a’r cyfryngau wedi gwaethygu eto ar ôl i’r Arlywydd dreulio’r rhan gorau o awr yn ymosod arnyn nhw.
Roedd yn cyhuddo’r cyfryngau o fod “allan o reolaeth” yn “anonest” ac yn “dangos casineb” tuag ato.
Ar yr un pryd, fe fynnodd nad oedd dim o’i le gyda’r broses o geisio atal mewnfudwyr o wledydd Mwslemaidd … heblaw am benderfyniad y llysoedd yn rhwystro’r gwaharddiad.
Fe addawodd y byddai’n cyflwyno cynllun arall yn fuan “er mwyn gwarchod pobol yr Unol Daleithiau”.
Methu llenwi swydd bwysig
Mae’r dyn yr oedd eisiau ei benodi yn Gynghorydd Diogelwch Cenedlaethol – ar ôl ymddiswyddiad Michael Flynn tros drafodaethau cudd gyda’r Rwsiaid – wedi gwrthod y swydd.
Yn ôl yr Is-lyngesydd Robert Harward, roedd eisiau cyfle i gael mwy o amser hamdden … un o’r dewisiadau posib erall yw David Petraeus, y cadfridog a gafodd ei gosbi am gamddefnyddio gwybodaeth swyddogol gudd.
Fe ddywedodd Donald Trump wrth y wasg ei fod wedi etifeddu “llanast” yn y Tŷ Gwyn ar ôl Barack Obama a fod ei weinyddiaeth ef yn mynd fel watsh.