Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Mae prif ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol yr Arlywydd Donald Trump wedi ymddiswyddo llai na mis ers dechrau yn ei swydd.
Daw ymddiswyddiad Michael Flynn yn dilyn adroddiadau ei fod wedi camarwain y Dirprwy Arlywydd Mike Pence a swyddogion eraill ynglŷn â’i gysylltiadau a Rwsia.
Yn ei lythyr yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd Michael Flynn ei fod wedi cynnal nifer o drafodaethau gyda llysgennad Rwsia i’r Unol Daleithiau cyn i Donald Trump gael ei urddo’n Arlywydd a’i fod wedi rhoi “gwybodaeth anghyflawn” ynglŷn â’r trafodaethau hynny i Mike Pence.
Roedd y Dirprwy Arlywydd wedi dweud yn wreiddiol nad oedd y prif ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol wedi trafod sancsiynau gyda llysgennad Rwsia, gan ddibynnu ar wybodaeth a gafodd gan Michael Flynn. Ond mae Michael Flynn bellach wedi cyfaddef bod y mater wedi codi yn ystod trafodaethau.
Eisoes, mae Donald Trump wedi cyhoeddi mai’r cyn-Is-gapten Cyffredinol Keith Kellogg fydd yr ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol dros dro, ag yntau wedi’i benodi i’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol ac wedi cynghori Donald Trump ar faterion o’r fath yn ystod ei ymgyrch.