Ffatri Kancoat, Abertawe (Llun: Swyddfa Archwilio Cymru)
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am fuddsoddi mewn cwmni gweithgynhyrchu o Abertawe a aeth i’r wal yn ddiweddarach.
Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fe wnaeth Llywodraeth Cymru “arllwys arian da ar ôl drwg” i gwmni Kancoat.
Cafodd mwy na £3.4 miliwn o arian cyhoeddus ei fuddsoddi yn y cwmni oedd yn creu caniau tun, diod ac erosol ond a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Medi 2014.
O ganlyniad, gwnaed colledion o £1.5 miliwn i’r pwrs cyhoeddus gyda’r swm yn cynyddu.
‘Gwan ac anghyson’
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at adolygiad gafodd ei gyflwyno ynghynt yn amlygu bod achos busnes Kancoat yn “wan ac yn anghyson.”
Daeth i’r amlwg hefyd bod dwy ymdrech flaenorol i redeg cwmni tebyg ar y safle wedi methu.
Mae datganiad gan y pwyllgor yn nodi; “buddsoddodd Llywodraeth Cymru yn Kancoat ar adeg a ddaeth yn fuan ar ôl yr argyfwng ariannol, pan oedd llawer o fusnesau yn cael trafferth i gael benthyciadau, ac roedd risgiau yn gyffredinol yn fwy nag y byddent o fewn hinsawdd economaidd fwy sefydlog.
“Roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i arllwys arian i Kancoat y tu hwnt i’w diwydrwydd dyladwy ei hun, a hynny gan fethu â nodi nifer o risgiau posibl na’u lliniaru, a gwnaed hyn heb fawr o gofnodion na rhesymau wedi’u nodi,” ychwanegodd y datganiad.
Argymhellion
Mae’r pwyllgor wedi cyflwyno 11 argymhelliad i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i nodi’n glir unrhyw benderfyniadau i fynd yn groes i gyngor yr adroddiad diwydrwydd dyladwy.
Maen nhw hefyd yn dweud fod angen creu canllawiau cadarn ar adnabod a lliniaru risgiau yn sgil yr ymchwiliad hwn, gan hefyd sicrhau prisiadau proffesiynol ar asedau fel diogelwch cyn cytuno ar unrhyw gyllid.
‘Methiannau sylweddol’
Mewn ymateb, dywedodd Russell George AC y Ceidwadwyr Cymreig fod yr adroddiad yn arddangos “methiannau sylweddol” gyda’r buddsoddiad wedi’i wneud yn wyneb “cyngor cadarn a fflagiau coch.”
“Mae’n hollbwysig fod argymhellion y pwyllgor yn cael eu hystyried o ddifrif a’u gweithredu, fel na fydd penderfyniadau gwael tebyg yn cael eu hailadrodd yn y dyfodol.”
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud ei bod yn croesawu’r adroddiad a’i bod wedi gwneud llawer o newidiadau ers hynny.