Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Llywodraeth Prydain wedi rhybuddio nad oes modd mynd i’r afael â phroblemau carchardai Cymru a Lloegr gydag “atebion parod peryglus.”
Mewn araith heddiw, gwrthododd Liz Truss alwadau’r gwrthbleidiau i gwtogi’r nifer o garcharorion yng Nghymru a Lloegr o tua 85,000 i ffigurau tebyg i 27 mlynedd yn ôl a fyddai o gwmpas 45,000.
Mae’r mater wedi dod i sylw ymchwiliad Panorama’r BBC hefyd fydd yn cael ei ddarlledu ar BBC One heno ac yn datgelu nifer o broblemau mewn un carchar yn Northumberland gan gynnwys defnydd helaeth o gyffuriau.
‘Peryglu’r cyhoedd’
“Mae yna rai yn y blaid Lafur sydd eisiau troi’r cloc yn ôl a thorri poblogaeth y carchardai i’r maint yr oedd e yn 1990, o gwmpas 45,000,” meddai Liz Truss.
“Byddai hyn yn anystyriol ac yn peryglu’r cyhoedd,” ychwanegodd.
Dywedodd fod mynd i’r afael â throseddwyr rhyw yn effeithiol dros yr ugain mlynedd diwethaf wedi cyfrannu at gynnydd ym mhoblogaeth y carchardai.
Mae 84,672 o garcharorion yng ngharchardai Cymru a Lloegr, sef ychydig dros 1,000 yn brin o’r “capasiti gweithredol y gellir ei ddefnyddio.”