Kathryn Bishop, (Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu y bydd Cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau (Chwefror 16).
Yr enw sy’n cael ei ffafrio ar hyn o bryd ydy Kathryn Bishop sydd wedi gweithio am gyfnod fel Comisiynydd i’r Gwasanaeth Sifil.
Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn dechrau ar ei waith ym mis Ebrill 2018, pan fydd treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru, ac mae’n dilyn pasio Deddf Rheoli a Chasglu Trethi (Cymru) ym mis Ebrill 2016.
Bydd y corff yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, sy’n atebol i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threthdalwyr yng Nghymru.
Cafodd Kathryn Bishop ei ffafrio fel yr ymgeisydd gorau yn dilyn argymhelliad gan banel penodi sy’n cael ei gadeirio’n annibynnol, ac mae wedi arbenigo mewn meysydd Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol lle mae’n Gymrawd Cyswllt o Ysgol Fusnes Saïd (Prifysgol Rhydychen).
Mae hefyd yn gyfarwyddwr busnes ymgynghori ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol mewn amryw o sefydliadau’r llywodraeth, gan gynnwys Asiantaeth Ffiniau’r DU, Swyddfa Eiddo Deallusol y DU ac yn Llywodraeth Cymru.